Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hoffi y gwaith, fy machgen?" ""Welli mi ateb ar unwaith, mam," ebai y bachge n; "nid oeddwn yn hoffi y cyflog; dyna'r achos i mi ymadael. Yr oedd ar fy meistr eisieu i mi bechu, "a chyflog pechod yw marwolaeth. "

Yr wyf yn hoffi ysbryd y bachgen, a byddai i mi ei wasgu yn dŷn at fy nghalon, pe byddai yn agos ataf. Yr oedd yn meddu ar ddigon o ddoethineb i wybod fod twyllo a dywedyd celwydd yn bechod. Yr oedd yn meddu ar ddigon o wroldeb i fforffetio enillion presenol pechod, oblegid nad ydoedd yn hoffi ei gyflog yn y dyfodol. Fachgen ardderchog! Yr oedd ynddo y defnydd ag y gwneir ohono ddyn- ion da, defnyddiol, a dedwydd. Yn awr, fy nghyf- eillion ieuainc, yr ydwyf yn adnabod llawer o blant ag sydd yn hoffi pechod am ei fod yn ddymunol ar y Pryd; ond a wyddoch chwi am rywun oedd yn hoffi y gyflog? CYFLOG PECHOD YW MARWOLAETH. Mae yn lladd y corff, ac yn dinystrio yr enaid. Onid yw pechu yn weithred ffol? Oni fyddai yn beth ffol i fachgen neu eneth fach yfed gwenwyn marwol, am ei fod yn felus? Ac onid ydyw y plentyn hwnw yn ffolach o lawer ag sydd yn pechu am fod hyny yn ddymunol, er ei fod yn gwybod y bydd i hyny ei ddinystrio am byth? Cofiwch, ddarllenwyr ieuaingc, mai Cyflog pechod yw marwolaeth.