Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pont y Gwr Drwg (Devil's Bridge).

MEWN lle yn Ngheredigion y mae afon wyllt yn rhuthro trwy agoriad cul mewn craig fawr; uwchlaw iddi y mae pont arw, a elwir Pont y Gŵr Drwg. Y mae'r golygfeydd yn y llecyn hwn yn wyllt â rhamantus neillduol. Wrth sefyll ar y bont haiarn a godwyd uwchlaw y bont yr ydym yn son am dani, ac edrych i lawr i'r gwaelod, a gwel'd yr afon yn rhuthro ac yn ewynu wrth ymwasgu trwy y fynedfa gul, ac yna yn disgyn o'r naill graig i'r llall nes cyrhaedd y gwaelod, anmhosibl i'r edrychydd beidio cael ei daro gan arucheledd yr olygfa.

Yr oedd yr "hen bobl" yn ofergoelus iawn. Credent bob math o ffolinebau anhygoel bron. Yn mhlith pethau ereill, dywedent mai y diafol a adeiladodd y bont isaf dros yr afon hon. Wrth gwrs, ni chredid y fath ffolineb yn bresenol. Gŵyr pob plentyn erbyn hyn nad oedd a wnelai Satan a'r bont hon mwy nag â rhyw bont arall,

Ond y mae Satan, er hyny, yn gwneyd pontydd. Ond y mae yr holl bontydd wneir ganddo yn dwyllodrus fel ei holl weithredoedd ef, a gwae y bachgen neu y lodes a'u croesant: gallant, y mae'n wir, eu harwain dros y dyryswch ag y byddont