"Nac oes un, Edward bach, maent oll yno'n canfod,
Ond pa'm y gofynwch ofyniad mor hynod?"
"O! bu Ef mor dda imi yn ngwyneb fy aflwydd,
Fel yr hoffwn yn fawr wel'd gwyneb yr Arglwydd."
Cyn hir daeth afiechyd a'i ddwylaw haiarnaidd,
I greulon afaelyd yn y bachgen hoff llariaidd ;
Ei fam weddw dlawd, mewn dagrau a gweddi,
Erfyniai ar Dduw roi ei bachgen dall iddi.
A. theimlai ei dagrau ar ei ruddiau yn disgyn,
A d'wedai, "Na wylwch droswyf fi yr un deigryn,
'Rwy'n myned i ardal ardderchog—ysblenydd,
Lle y dywed Mary caf weled yr Arglwydd.
A chwithau, fy Mary anwylaf, fydd yno;—
Ond mam, pan gyraeddwch chwi yno i breswylio,
Dywedwch wrth Edward mai chwi fydd yn siarad,
Chwi wyddoch na chefais erioed yma'ch gweled.”
Ac mwyach ni ddywedodd un gair, ond tlws wenodd,
Nes derbyn y ddyrnod ddiweddaf, pan hunodd ;
A phan y cymerodd Duw'r bachgen dall adref,
Agorwyd ei lygaid yn nghanol y wiw-nef.
Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/82
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon