Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GRAMADEG GRUFFUDD ROBERTS.

YR IAITH GYMRAEG
yn erchi gan dduw, lwiddiant a hyfryd
gynnydd mewn gras, anrhydedd, a
gogoniant i'w hanrhydeddusaf
bennadur, ai diball nodded
Wiliam Harbart
Iarll o Benfro
ag Arglwydd o Gaer dydd.

Y Gymraeg yn erfyn nodded Wrth fyngweled fyhun, er ysllawer o flynyaddoedd, heb bris gan neb arnaf trwy ynerfyn dir Cymru, na chwaith ddim gennyf mewn scrifen na phrwyth ynddo i hyphorddi mewn dysg a dawn fyngharedigion bobl: mi a dybiais (f'anrhydeddfawr Bennaeth) mae da oedd ymy fyned trwy wledydd Ewropa i edrych ymysc ieithoedd eraill. a gaid yrun cyn ddiystyred i chyflwr a mi, ag mor ddiles i'r bobl sy'n i doedyd. Ond wedi ymy gerdded o fraidd benn yr Hyspaen trwy Phraingc, Phlandria, ag Alemania, a'r Eidal hyd eithaf Calabria tan ymofyn ymhob lle am gyflwr, braint, a helynt yr ieithoedd sydd tu draw i hynny, ni fedraisi weled na chwaith glowed oddiwrth yrun na bai уп cael gwneuthur yn fawr of honi ymysc pawb sydd o naturiaeth yn ei doedyd. Ag wrth fod pob un o honynt yn cael i'mgeledd a'i