Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pherchi gen i phobl, hithau drachefn, i wneuthur iawn am y caredygrwydd a gafodd, sy'n traethu i'w phobl bob peth a fo gwiw i wybod, hyfryd i glowed, a gogoneddus i wneuthur. Canys nyd oes nag ystori i ddyscu henafiaeth na chylfyddyd o enw a lles na gwybodaeth o ddim a dalai i ddysgu nas darfu i'r Hyspaniaith, Phrangeg, a'r Eidaliaith i tanu, ai hau ymysc gwyr i gwlad i dalu am i magwriaeth ai'mgeledd. Pan welais innau hynny, e fu ryfedd iawn genyf fod y cymru mor ddiddarbod am danaf, a minnau mor ddifudd iddynhwythau; yn anwedig wrth weled fod fynghymru i, o athrylith a synwyr yn abl i'mgystadlu a'r rhai gorau yn imysc nhwy, a minnau mor llawnllythr im scrifennu cyn gyfoethocced o eiriau, cyn hyned fynechreuad a'r falchaf o'r ieithoedd a henwais. Ynol hir ymgynghori a dyfal fyfyrio e farnwyd nad oedd fodd i mi godi fynghefn i fynu i wneuthur lles i'r gwyr imtrefnodd duw iddynt, nes cael onof yn ganllaw ag yn nodded ym, wr ai ewyllys yn damuno da ymy, ag ai bwyll yn abl i weled y phordd a fyddai im dyrchafu, a hefyd, o rym. yn gallu dwyn i benn y peth a ddamunai ag a farnai yn dda ar fy lles. Felly wrth fwrw fy llyfrau ag edrych ple cawn y fath ganllaw a gynghorwyd ymmy i cheisio, mi a welaf fod yn ych arglwddiaeth chwi bob un o'r tri phwnc sydd anghenraid i mi wrthyn. Canys e wyr holl Gymru a Lloegr faint ych serch i'r fruttaniaith, pryd na ddoedech wrth Gymro ond