Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwybodaeth. Ni chollais ddim o gred fy mebyd, ni chollais ddim ohoni eto; y mae digon o newydd-deb bythol ynddi i mi dreulio fy mywyd i weled agweddau newyddion arni. Ond deallais y gall gwyr o gredo arall feddu bywyd pur, a gwneyd gwaith arwrol, a gweled Duw. Y mae hyn wedi llenwi'm bywyd a dedwyddwch, a'r byd yr wyf ynddo â daioni.