Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymraeg yn talu yn yr un arholiad yr adeg honno. Cyfarfyddem ef yn ei ystafell ei hun, a darlleneni ryw awdwr fel y Bardd Cwsg neu Theophilus Evans gyda'n gilydd o gylch ei fwrdd. Gwnaeth i ni gymeryd dyddordeb yng ngeiriau yr iaith Gymraeg, ac yn enwedig yn ei geiriau llafar a'i geiriau gwerin. Danghosodd i ni fod gogoniant lle y tybiasom nad oedd ond gerwindeb gwerinol o'r blaen. O dipyn i beth dechreuasom hoffi llenyddiaeth Gymreig; cawsom gipolwg yn awr ac yn y man ar ysplander ei chyfoeth. Yr hen athraw tal, llygadlon, difyr, — tawel fo ei hun yntau, wedi ei oes hir gyda geiriadur a gramadeg, yn hoffus dyffryn Dyfi.


Yr oedd Albanwr bychan, bywiog, ac athiylithgar yn darlithio i ni ar lenyddiaeth Seisnig; ac yr oedd yn un o'r athrawon mwyaf hoffus a gyfarfyddais erioed. Wrth gydmaru llenyddiaeth Gymreig a Llenyddiaeth Saesnig â'u gilydd yr oedd y ddwy yn dod yn fwy dyddorol, ac yn hawdd eu deall.

Yr oedd athraw arall, Almaenwr o genedl, yn darlithio ar lenyddiaeth Ffrengig, a gwnaeth oes a meddyliau cyfnod aur Ffrainc yn fyw iawn i ni. Ond rhaid i mi beidio dechreu enwi. Yn unig dywedaf fod coleg cenhedlaethol cyntaf Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei athrawon. Yr oedd ganddynt gyfandiroedd newydd i'w dangos i ni; ac yr oedd arnom syched am wybodaeth.

Mae gennyf adgofion melus am Aberystwyth, — am lan y môr, am Goed y Cwm, am swn rhegen yr yd ddeuai gydag arogl bêr y gwair dros y dref i fy ffenestr yn nyfnder nos, pan oedd y Coleg yn cysgu a minnau'n ceisio ennill