Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Master, onid ydych yn tybio fod yn bryd i'r Gwyddelod gael yr hyn ydynt yn ddymuno? "

"A fuoch chwi yn yr Iwerddon erriod?" ebe yntau.


"Naddo," meddwn innau, gan deimlo'n weddol sicr ei fod wedi darganfod na fum erioed o Gymru o'r blaen.

"Y mae gennych reswm da, felly," meddai, "dros ofyn eich cwestiwn yn y dull yna."


Ni theimlais fy hun erioed wedi fy llethu mor ddidrugaredd; tôn ei lais oedd greulon, ac nid ei eiriau. Dechreuodd fy ngwefusau grynnu, yr oedd Iwmp mawr yn fy ngwddf, ac am fy llygaid, — wrth gwrs yr oeddwn yn wirion iawn. Newidiodd dull Jowett mewn amrantiad. Collodd ei olwg ddidaro, ac yr oedd rhywbeth fel direidi llawen yn y llais bach pan ddywedodd, —

"Byddaf yn hoffi mynd i Gymru bob amser. Mae bardd neu ddau ymhob pentre bach yno, ac y mae hynny yn arwydd dda iawn am genedl. Yr oeddwn yng Nghymru y gwyliau diweddaf, a dywedai y westywraig fod boneddiges newydd adael y gwesty ac wedi eu ceryddu am na siaradent Gymraeg. Lady Charlotte Guest oedd honno. Yr oedd un o'm cyfeillion goreu, Rowland Williams, yn Gymro. A Chymro yw Lord Aberdare. Hwyrach na fedrwn ni ddim cytuno am y Gwyddelod, ond rhaid i chwi beidio digio wrthyf, yr wyf yn hoff o'r Cymry erioed."

Daeth fy holl hunanoldeb yn ol ar unwaith, a dywedais y gallwn dderbyn cerydd, fy mod yn ceryddu rhai fy hun weithiau, a fod dihareb Gymraeg yn dweyd na ddylai pobl sy'n cerdded yn droednoeth hau drain. Hoffodd y Master y ddiharieb, a dywedodd yn awchus, —