"Mae honyna'n well na'r ddihareb Ysgotaidd am y ty gwydr. Dywedwch rai o'r lleill wrthyni."
Cyfieithias hynny o ddiarhebion oeddwn yn gofio, gan wneyd y camgymeriadau rhyfeddaf, oherwydd trwsgl iawn wyf yn fy Saesneg. Prin y medrai'r bechgyn ereill, er boneddigeiddied
oeddynt, beidio chwerthin; ond coethai'r Master fy Saesneg, nes yr oedd yr hen ddiarhebion yn loew yn eu gwisg newydd. Rhyngom troisom enw'r alaw "Glan Meddwdod Mwyn" yn "Sweet Verge of Drunkenness." "Cyfieithiad da iawn," ebai," yr wyf yn cofio cydwladwr i
chwi na fydd byth yn peidio condemnio y lan yna; yr ydych yn gwybod am Ruffydd Ellis, ond
ydych?"
Wrth adael ystafell foreubryd y Master, teimlwn fod gan bob un o'r bechgyn hyn un cysur nas gallwn i ei hawlio. A dyma oedd, — teimlo mai nid efe oedd y ffwl mwyaf yn y brecwest y bore hwnnw. Nid oeddwn yn ddigon hunanol i fedru cuddio oddiwrthyf fy hun y ffaith fy mod wedi gwneyd asyn ohonof fy hun, a hynny ym mhresenoldeb Jowett.
"Hidiwch befo, meddwn wrthyf fy hun, gan geisio ennill hyder, " mi wnaf i fyny am hyn oll yn y Fach. Os na fedraf siarad, medraf ysgrifennu." Hiraethwn, bron, am drannoeth, a'r arholiad. Ymddangosais yn Ysgol yr Arholiadau'n brydlon; a throwd fi allan ar unwaith, gan nad oedd gennyf got ddu a chadach gwyn, yn ol deddf gaeth y Brifysgol. Cyfarwyddwyd fi i siop ddillad ar gyfer, lle y prynnais gadach gwyn ac y llogais got ddu. Yr oeddwn wedi colli botwm fy ngholer, ac yr oedd