y got yn dynn iawn am f 'ysgwyddau. Ni fu dim rhyfedd yn ystod yr arhoiad. Ni ches gyfle i ymddisgleirio, ond ni freuddwydiais am drychineb.
Yr oedd gennyf ddiwrnod neu ddau i aros am y rhan dafod leferydd o'r arholiad. Un noson eis gyda chyfaill i un o gyfarfodydd Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Collais fy holl ofidiau yn y cyfarfod hwnnw, a theimlais fod yn werth i mi ddod i Rydychen, pe i ddim ond profi wladgarwch aelodau y gymdeithas hon. Prynnais ddarlun o'r aelodau, i'w gadw'n ofalus, fel y gwelai fy wyrion y gwyr enwog y cefais yr anrhydedd o fod unwaith yn eu mysg.
Daeth dydd tafod leferydd. Responsions yw enw yr arholiad; ond "Smalls," neu y " Fach," y gelwir hi'n gyffredin. Cefais fy hun am y bwrdd a thri arholwr, pob un yn edrych arnaf yn ddwys. Dechreuasant fy ymlid drwy droion diddiwedd yr afreolus ferfau Groeg. Buasai'n well gen i orfod rhedeg trwy yr afreolus enwau na'r berfau; ond nid myfi oedd i ddewis, ysywaeth, yn y Fach. Y mae'n ddiameu gennyf fod yr arholwyr wedi clywed ffurfiau na chlywsent erioed o'r blaen, y dydd hwnnw. Ymgynghorasant yn ddistaw, ac yna rhoisant fi wrth fwrdd, gan ofyn i mi droi darn o bapur newydd Saesneg i'r iaith Ladin. Nid oeddwn yn hollol sicr beth oedd hyn oll yn feddwl; ond meddyliais am arddull a miwsig, yn hytrach nag am ramadeg, wrth gyfieithu — gan ochel ffurfiau a moddau nad oeddwn wedi cael rhesymau digon cryfion dros gredu, hyd yn hyn, eu bod yn dda i ddim yn y byd. Dywedodd yr arholwyr, wedi darllen fy Lladin, na thrafferthent fi ymhellach. Tybiwn fod hyn yn arwyddocaol iawn.