Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dylwn fendithio Rhagluniaeth am roddi i mi gof mor wan. Mor druenus fuaswn fe medrwn gofio fy holl droion chwith. A phan ddaw adlais ambell adgof am y gorffennol, yr wyf yn cofio mor chydig am dano fel y gallaf fforddio chwerthin am fy mhen fy hun. Mae bywyd yn llawn o gamgymeriadau, — aml lwybr dyrus wedi ei gerdded yn ofer, cyfle ar ol cyfle wedi ei golli, gair heb ei ddweyd yn ei amser neu ei gam-ddweyd pan ddylesid bod yn ddistaw. Hyfryd yw meddwl nad oes ddychymyg yn y bedd, ac mai gogoniant yr Hollwybodol yw y medr lwyr anghofio bai.