DYRNAID O BEISWYN.
WEDI ysgrifennu adgofion crwydr munudau gwan, y mae arnaf awydd taflu dyrnaid o beiswyn gyda'r gwynt. Nid grawnwin gesglais ar fy mywyd, nac afalau gerddi, ond y peiswyn ysgafnach nag us.
1. Dylai athraw ddysgu i'r bachgen, nid y peth y mae ef ei hun yn ddigwydd fedru, ond beth ddylai'r bachgen wybod. Am hynny rhaid i athraw ddysgu ei hun o hyd, — pan beidio dysgu ei hun ni fedr ddysgu arall. Dylai ddarganfod beth ennill ddyddordeb ei ddisgybl. Nid disgyblu, trwy blygu bachgen i hoffi'r cas, yw nod addysg; ond dadblygu meddwl, trwy faethu twf naturiol.
2. Y mae cydymdeimlad yn hanfodol angenrheidiol, gall athraw o gyrhaeddiadau bychain wneyd gwyrthiau trwy gydymdeimlad. Y mae dirmyg yn andwyol; cyll yr athraw galluocaf ei aniean pan ddisgyn at sen a gwawd.
3. Mae gallu i ysmalio yn nerth, ond rhaid iddo fod yn ddiwenwyn. Creulondeb yw'r ysmaldod bâr boen i blentyn tra'r lleill yn chwerthin. Os na theimla'r bachgen fod ei athraw'n foneddwr, nis gall ddysgu.
4. Yr athraw salaf fedr gosbi oreu, — gwna ambell un boenydio yn gelf gain. Anghelfydd iawn yw'r athraw da wrth geisio cosbi; a pho anghelfydded fo, mwyaf yn y byd fydd ei barch a'i ddylanwad. Coffa da am John Hughes Pont Robert yn rholio'r drwgweithredwr hyd lawr yr ysgol yn ei got fawr.