perthyn iddo ; ac yr oedd ei wraig, boneddiges dal urddasol, yn cymeryd dyddordeb mawr yn addysg yr ardal. Yr adeg yr es i i'r ysgol gyntaf, yr oedd yno ysgolfeistres. Awd a fi i'r ty; yr oedd yr ysgol wedi dechre, ac nid oedd blentyn yn y golwg ar y Llan. Daeth yr ysgolfeistres atom, — dynes fechan, a llygaid treiddgar, ac yn dal ei dwylaw o'i blaen y naill ar y llall. Siaradai dipyn o Gymraeg lledieithog. iaith y werin: Saesneg. mae'n amlwg, oedd ei hiaith hi, — iaith y bobl fonheddig, iaith y bobl ddieithr oedd yn lletya yn y Plâs, a iaith y person o sir Aberteifi. Ni fedrai wenu ond wrth siarad Saesneg. Sur iawn oedd ei gwep wrth orfod diraddio ei hun trwy siarad Cymraeg; o ran hynny, surni welais i ar ei gwedd erioed, ond pan wisgai ei gwyneb teneu â gwên i gyfarfod y foneddiges hael oedd yn talu ei chyflog iddi. Ni wrandewais i ar ei geiriau, ac nid oeddwn yn hoffii ei gwyneb, meddyliwn am drwyn llwynoges welais yn f'ymyl unwaith wedi nos.
"Fy machgen i," ebai fy mam, " dyma dy feistres newydd. Edrych arni, tyn big dy gap o dy geg, mae hi'n mynd i ddysgu pob peth i ti. Ysgwyd law a hi."
Estynnodd ei llaw ataf, gyda gwên wan yn marw ar ei gwyneb, — "gwnawn," meddai, "mi dysgwn ni pob peth sydd isio i gwbod iddo; mi dysgwn ni o sut i bihafio."
Nid dysgu sut i fihafio oedd arnaf fi eisiau, ond dysgu sut i wneyd pont a sut i wneyd capel. Daeth awydd mawr drosof am fynd adre gyda fy mam; ond ar ol yr ysgolfeistres y gorfod i mi fynd. Agorwyd drws yr ysgol; clywn ddadwrdd rhyfedd, a gewelwn blant wedi eu pacio'n dyn wrth eu gilydd ar lawer o feinciau.