Yr oedd dau le agored ar lawr yr ysgol, a gwelwn ddau ar eu traed, un ymhob llecyn agored. Deallais wedyn mai is-athraw ac is-athrawes oeddynt. Aeth yr ysgolfeistres a fi at un o honynt, ond nid wyf yn cofìo ond "niw boi " o'r hyn ddywedai. Yr oeddwn yn medru darllen Cymraeg yn bur dda erbyn hyn, a rhoddwyd fì mewn dosbarth plant yn dechreu darllen Saesneg. Un o lyfrau'r S.P.C.K. oedd y llyfr darllen, ac y mae'n gas gennyf y llythrennau byth, oherwydd y creulondeb ddioddefais wrth geisio dysgu o'r llyfr hwnnw. Llanc diddan oedd yr athraw, a bu'n garedig iawn wrthyf, ond wedi gwers y darllen aeth i'w le at ddisgyblion ereill. Buan yr aeth y gair fod un newydd, a gwirion hefyd, wedi dod i'r ysgol. Yr oedd llygaid amryw o blant creulon arnaf, — gwn am danynt i gyd, plant cegog o'r pentref oedd y rhan fwyaf, — nid ydynt uwch bawd sawdl byth. Yr oedd yr athraw wedi dweyd wrthyf yn ddistaw am beidio siarad gair o Gymraeg ; ond yr oedd y bechgyn drwg hynny'n gwneyd popeth fedrent i wneyd i mi waeddi, ac o'r diwedd llwyddasant. Collais fy nhymer, a dechreuais ddweyd fy meddwl wrth y chwilgi bradwrus ddyfeisiai sut i'm poenydio. Gydag i mi ddweyd fy Nghymraeg cryf, chwarddodd pawb, a rhoddwyd llinyn am fy ngwddf, a thocyn pren trwm wrtho. Ni wyddwn ar wyneb y ddaear beth oedd, yr oeddwn wedi gweled tocyn cyffelyb am wddf ci i'w rwystro i redeg ar ol defaid. Tybed ai i'm rhwystro adre y rhowd y tocyn hwnnw am fy ngwddf i? O'r diwedd daeth canol dydd, awr y gollwng. Daeth yr ysgolfeistres yno a gwialen yn ei llaw. Gofynnodd ryw gwestiwn, a chyfeiriodd pob plentyn gwasaidd ei fys ataf fi. Daeth rhyw
Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/15
Gwedd