Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysgol y Llan Rhan III

Y mae llawer un yn medru edrych yn ol ar ddyddiau ei ysgol fel dyddiau dedwyddaf ei fywyd. Ni fedraf fi wneyd hyn. Y mae llawer un yn gwybod mai ei athraw cyntaf roddodd iddo y trysorau gwerthfawrocaf fedd, — cred mewn gonestrwydd ac yn Rhagluniaeth, cred mai lle heulog ydyw'r byd i rywun fo a'i fywyd yn iawn, cariad at ei gyd-ddyn a pharch tuag at wŷr i'r rhai y mae parch yn ddyledus. Ni chefais i y pethau hyn, — y pethau gefais i oedd teimlad fy mod dan gyfraith haiarnaidd nas gallwn ei deall, a fod yn rhaid dweyd celwydd cyn y medrwn achub fy ngham. Ni ddeallais f'athrawes erioed, oherwydd ni siaradai air fedrwn ddeall. Buasai'n fendith anrhaethol i mi pe na welswn yr ysgol erioed.


Ond, i fynd ymlaen gyda'm hanes, yr oedd dydd i ddydd yn ychwanegu blinder i mi yn yr ysgol. Nid oedd y llyfrau a roddid o'm blaen ond tywyllwch di-obaith i mi, ac yr oedd yr esboniadau gynhygid arnynt yn dywyllach fyth. Collais fy hoen, ac nid oedd blentyn anedwyddach yn y fro honno i gyd. Blinodd y rhai hoffai wrando f'ystraeon arnaf. Gadawyd fi at drugaredd rhai eiddigus o'm doniau prin, a churid fi'n ddi-drugaredd hyd nes y dysgais ymladd. Yr wyf yn cofio darganfod fod ysbryd llofrudd ynnof ryw dro, pan yn anelu carreg at ben bachgen oedd wedi gwneyd i mi golli'm tymer. Pan dan ofal fy nhad, a than ei addysg, — er lleied oedd cylch ei ddarllen, — yr oeddwn yn hapus, a'm henaid yn heddychlon. Ond magwyd ysbryd drwg ynnof yn yr ysgol; ac, ar adegau, y mae yn fy mhoeni byth. Pan fo plentyn yn awyddus am ddysgu, ond heb y gallu