Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ddeall ei athraw'n siarad Saesneg, fy ngweddi ydyw ar iddo gael ei wared oddi wrth y teimlad ei fod dan deyrnasiad anghyfiawnder a chreulondeb. Pan fydd wedi anghofio'r wialen, edrych ar bawb fydd yn siarad Saesneg fel ei elyn naturiol byth.


Yr wyf yn cofio'r ysgol honno'n dda, — y paent melyn-wyrdd oedd ar ei muriau, y llechau cerrig oerion, y llawr coed treuliedig, y wialen ar y ddesc, y darnau bychain o wydr oedd yn y ffenestri, a'r cloc yr oedd diogi wedi ymglymu am ei fysedd.


Cyn hir aeth yr ysgol yn anioddefol i mi. Collwn fy nghysgu'r nos wrth feddwl am dani ; ac, o'r diwedd, er ymdrech galed, teimlais na fedrwn fynd iddi mwy.


Ryw fore, mi a'i cofiaf byth, ymguddiais mewn gwrych o ddrain, — ac yr oedd arogl blodau'r drain yn fil mwy dymunol nag arogl paent melyn-wyrdd, — hyd nes oedd y plentyn olaf wedi mynd i'r ysgol. mor dawel a hyfryd oedd pob man wedi i'r plentyn olaf fynd i'r ysgol !


Crwydrais lawer, pan ddylaswn fod yn yr ysgol, ar hyd yr ardal. Yr wyf yn cofio llawer peth rhyfedd welais ac a glywais, yn yr oriau crwydr hyn, ymysg gweision ffermwyr. Un tro dois i ystabl ffermdy heb fod ymhell o'r ysgol ar adeg seremoni ryfedd. Yr oedd y gwas, gŵr cadarn cydnerth, yn bedyddio'r ceffylau trwy wneyd llun y groes ar eu talcennau. Gorfod i mi fod yn ddistaw iawn tra bo'r seremoni'n mynd ymlaen. Yna gofynnodd i mi a welais fedyddio ceffylau o'r blaen. Dywedais na wyddwn i fod neb ond plant yn cael eu bedyddio. Dywedodd yntau mai ceffylau drwg iawn fydd ceffylau heb eu bedyddio. Gyda