Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

innau hefyd, trown i lawr ar hyd dyffryn y nant tua'm cartre. A bore drannoeth, pan fyddai'r haul yn sychu'r gwlith oddiar flodau'r grug, mwyn oedd gorwedd ar y mynydd i weled yr ehedydd bach yn codi o uchder i uchder, nes y byddai'n yspotyn du bron rhy fach i'w weled yn yr ucheldiroedd glas, a'i gân yn aros yng nghlust dychymyg o hyd. le, dyddiau dedwydd oedd y dyddiau hynny, pan oedd awel gynnes esmwyth yn anadlu dros y dolydd gweiriog a thros y mynyddoedd iach. Ac i wneyd fy llawenydd yn berffaith, clywais fod yr ysgolfeistres yn mynd i ffwrdd, i le gwell. Ond och! nid oedd diwedd i fod ar yr ysgol, er i'r ysgolfeistres fynd i ffwrdd. Yr oedd un arall i ddod yn ei lle. A chlywais newydd wnaeth i'm calon suddo o'm mewn. Wrth. fy ngweled yn rhedeg yn llawen gyda'm ci ryw ddiwrnod, treiodd hen wr pigog o ben ucha'r cwm ddinistrio fy llawenydd trwy ddweyd, — "Mae'r gaea'n dod, 'ngwas i, mi cei di hi'n iawn, 'roedd Sion Siop yn deyd wrtha i mai dyn ydi'r scwlmusus newydd." A meddyliais innau ar unwaith, os medrai dynes fechan deneu lainio mor echrydus, beth fedrai dyn mawr cryf wneyd.


Bum yn dyfalu llawer ffasiwn un oedd yr athraw newydd, breuddwydiwn am dano bob nos. O'r diwedd tynnais ddarlun o hono i mi fy hun, ac nis gallwn gael llonydd gan y darlun a greais, — dyn mawr tal oedd, a chadach du ar draws un llygad, a llais bas aflafar, a choes bren. Ond ni fedrwn gael sicrwydd i'm meddwl fy hun pa un ai ruler ynte gwialen fedw fyddai'n tynnu'r llwch o ysgwyddau'm cot. Un peth ni ddaeth yn agos i'm meddwl, — y syniad fod yn bosibl i ysgolfeistr fy neall yn siarad.