Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth bore mynd i'r ysgol. Cynghorodd fy mam fi y noson cynt i ufuddhau i'r athraw ym mhob peth. Addewais innau wneyd hyn, os medrwn, trwy ryw foddion, ddeall beth oedd yn ddweyd. Rhoddodd fy mam gynghorion ereill i mi hefyd, yn y wedd yma, — " Cofia di fod yn ffeind wrth blant ereill, yn enwedig wrth rai llai na thydi dy hun. Ond 'dydi ddim iws i ti adael i neb dynnu dy Iygaid. Os cei di gam, rhaid i ti chware dy bai't. Ac os doi di i gwyno ata i fod rhyw fachgen wedi dy guro di, cofia hyn, — mi gei gweir arall gen inne am adael iddo fo. Treia ddysgu, gael i ti leicio'r ysgol." Cychwynnais i'r ysgol yn ddewrach na Ilawer tro, wedi penderfynu "chware fy mhart."


Yr oeddwn wrth yr ysgol mewn pryd, a phan agorwyd y drws am naw i'r funud, ymwthiais i mewn gyda'r plant ereill, a gadewais i ffawd fy rhoddi i eistedd yn ol ei hewyllys hi. Gwelais cyn hir fod ffawd wedi fy rhoddi i eistedd yn y gornel bellaf oddiwrth y tân, a daeth mwy o rym nag erioed i eiriau fy mam fod yn rhaid i mi chware fy mhart fy hun. Ond dacw'r athraw newydd. Prin y medrwn gredu mai efe oedd, yr oedd mor anhebyg i ysgolfeistr fy mreuddwydion. Gŵr byrr tew oedd, a siriol iawn yr olwg. Yr oedd rhywbeth yn ei wyneb yn gwneyd i mi feddwl nad oedd hwn, beth bynnag, am geisio mwynhad drwy wneyd y plant mor anghysurus ag y medrai. Yr oedd gennyf syniad fod pob athraw'n cuddio gwialen fedw y tu ol i'w gefn, ond yr oedd rhywbeth yn ddeniadol yng ngolwg hwn. A sylweddolais, er llawenydd angerddol i mi, fod yn bosibl i fachgen ysgol hoffi ei athraw. Troais fy llygaid at y cwpwrdd lle y cedwid y botel inc fawr a'r