Wrth fynd adre'r prydnawn gwelais wraig yr athraw. Un hardd radlon oedd; a dechreuodd siarad à ni. Gofynnodd i mi a fedrwn "ddala iar bach yr haf." Ni wyddwn mai gloyn byw oedd yn feddwl, onide gallaswn ddweyd hanes bywyd degau o honynt wrthi. Holodd ni a oedd "pysgod yn yr afon, ac a oedd yn hawdd eu dal. Gwnaeth hyn fi'n ddistaw, yr oedd y pysgod yn gyfeillion i mi, ac ofnwn y medrai'r ysgolfeistr eu dal. Ond hoffwn y wên oedd ar wynebi y wraig a'i hiaith, — yr oedd mor anhebyg i'r hon a'n gadawsai. Synnem ei chlywed yn siarad Gymraeg, a hanner ofnem y cai "slap" ar ei llaw wedi mynd adre. Teimlwn yn falch iawn ar ddiwedd y diwrnod hwnnw. Diwrnod cyfan yn yr ysgol heb gurfa! Ni feddyliais erioed o'r blaen fod hyn yn bosibl. Nid oedd dim arswyd yn fy meddwl wrth feddwl am ysgol trannoeth. Rhedwn yn llawen gyda'm ci ar draws y caeau adlodd gwyrddion, i deimlo fy mod yn rhydd. A theimlwn fy mod wedi dysgu o x, ox. Gwyddwn lle'r oedd cerrig gleision hirion yng ngwely'r afon yn y mynydd. Eis yno i'w ceisio. Naddais un o honynt yn bensel feddal bigfain, torrais dwll yn ei bon," a rhoddais ruban melyn drwyddo, i'w hongian am fy ngwddf. Tybiais, hefyd, y gallwn fod o ryw ddiddanwch i'm cyd-ysgolheigion. Gwneis ddau bâr o "glecars " newydd, sef cerrig caledion i'w rhoddi rhwng fy mysedd. Medrwn chwareu y rhain er difyrrwch i mi fy hun, a dychmygwn weled yr holl blant yn gwrando arnaf mewn edmygedd.
Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/35
Gwedd