Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae blynyddoedd lawer er pan ysgiifennais yr adgofion tila hyn. Y mae'm hathrawes gyntaf yn ei bedd. Wedi dyddiau f'ysgol deallaised bod yn wraig dyner-galon a'i chariad at blant yn fawr. Ond yr oedd yn gaeth i gyfundrefn greulon ; a dysgai ni fel y dysgesid hithau druan. Ond, i mi blentyn, yr oedd hi a'r gyfundrefn yn un.


Os anghofìaf fy nghas at yr athrawes, ni anghofiaf byth fy nghariad at yr athraw a'i dilynodd. Yr oedd yntau yn hualau yr un gyfundrefn ddrwg, ond meiddiodd ef gredu mewn dull gwell. Er mai Saesneg oedd iaith yr ysgol, rhoddai fenthyg llyfrau Cymraeg i ni, — llyfrau llwydaidd yr olwg, ond llawn hanes arwyr a gwledydd, — i'w darllen fin nos. Cododd ynnom awydd angerddol am wybodaeth. Hudai ni i ddarllen ac i ddysgu. Deuai i'n cartrefì, a siaradai Gymraeg. Ac am ei wraig, aem ati i ddangos pob llyfr newydd; a byddai'n llawen gyda ni.


Aeth yr athraw o'r ardal wedi i mi adael yr ysgol, i ysgol arall mewn sir gyfagos. Cyn hir wedyn cymerodd urddau yn Eglwys Loegr. Bum yn ei wrando'n pregethu mewn hen eglwys adfeiliedig ar lan y môr, a dyna'r bregeth fwyaf hyawdl glywais mewn eglwys erioed.


Y mae yntau heddyw yn ei fedd. Huned yn dawel yn naear sir Aberteifi, ei sir enedigol. Bydd byw yn serch pob un o'i ddisgyblion. Lu o blant dedwydd, parablus, — ym mha le yr ydych i gyd? Os derllyn yr un ohonoch y llinellau hyn, derbyniwch gofion un sy'n aml yn meddwl am danoch. Tybed a ydych, fel y