HEN FETHODIST
“ |
|
” |
MEWN cornel o'r bwthyn lle'm ganwyd saif hen gloc. Tybiais lawer tro, os cawn ddigon o ysgol i fedru ysgrifennu rhywbeth, yr ysgrifennwn hanes yr hen gloc. Na ddychrynned y darllenydd; nid wyf yn myned i adrodd fy hanes fy hun. Y mae amryw gyfrinion rhwng yr hen gloc a minne, er pan fum yn syllu gyntaf ar ei wyneb melyn o'm hen gryd derw; ond, pe'r hoffai rhywun wybod y rheini, y mae'n debycach o gael gwybod gan yr hen gloc na chan i. Na, bydded y darllennydd yn esmwyth, nid oes arnaf eisio gwthio fy hun i'w sylw; fy unig amcan ydyw cyflwyno'm cydnabod, y cloc patriarchaidd hwnnw, iddo.
Pe cawn siarad ar ddameg, dywedwn i'r cloc gael bore oes gwyllt a dibris. Nid wyf yn siwr a oedd mewn teulu crefyddol pan ddechreuodd dician yn 1778; os oedd, rhaid mai teulu o Anibynwyr oedd y teulu hwnnw. Yr oedd y Crynwyr wedi darfod yn y wlad dan bwys erledigaeth, ac nid oedd ond beddau glaswelltog, heb garreg ac heb enw, i gadw traddodiadau am eu dioddef yn fyw yng nghof y rhai ofnus ai heibio'r fynwent wedi nos. Yr oedd yr achos Methodistaidd heb ddechre, er fod Howel