Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Harris wedi pregethu'n nerthol yn y fro, a Daniel Rowland wedi ysgwyd llwch eglwys y llan oddi wrth ei draed. Anaml iawn y ceid gwasanaeth yn yr eglwys ac nid oedd yr offeiriad erioed wedi deffro deall na chydwybod ei blwyfolion ofergoelus a meddw. Oni buasai am yr Anibynwyr, — hen ddisgyblion Morgan Llwyd o Wynedd, — ni chawsid neb â buchedd fwy rheolaidd, beth bynnag am ddeall a chydwybod, na buchedd y cloc newydd diciai yn 1778.


Ond buchedd ddeddfol oedd buchedd felly, nid buchedd ag ol grâs arni. A pha fodd y gall buchedd cloc fod fel arall. a pha synwyr sydd mewn son am rodiad cloc? Nid oes ynddo ef bechod gwreiddiol, onide ni fedrai ddechre tician. Nid yw pechod doe yn effeithio dim ar ei yfory ef, aiff cystal yfory pa un bynnag ai sefyll ai mynd wna heddyw, ac y mae'n llawn mor debyg o rydu wrth fynd ag wrth sefyll. Nis gwyr ef am demtasiynau. oni bai i dynfaen ddigwydd bod yn agos at ei bendil. Nid ydyw rhagrith yn bechod arno ef; rhaid iddo wisgo ei grefydd i gyd ar ei wyneb, onide ofer hollol fyddai ei waith.


Ac eto cafodd y cloc hwn ieuenctid gwyllt. Prin yr oedd wedi dechre ar ei waith, yn nhy deuddyn newydd briodi, pan dorrodd cwmwl ar y mynydd uwchben. Y mae ol y cwmwl yn torri i'w weld eto ar y mynydd, ond nid oes gymaint ag ol y ty lle ticiai'r cloc newydd. Ysgubwyd y ty ymaith gan y llifeiriant ofnadwy, a chollwyd y cloc o'r wlad. Ond wedi llawer o ddyddiau, gwelwyd ef yn nofio ar wyneb Llyn Tegid. Yr oedd ei wyneb wedi ei anafu, fel hen ymladdwr wedi ffair; yr oedd ei olwynion wedi rhydu yn y dŵr, fel cyneddfau gŵr a hir lymeitio; ond yr oedd defnydd da ynddo wrth