Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

natur, — derw o'r iachaf a phres o'r puraf, — a gwelwyd fod gobaith iddo, er gwyllted fu ei yrfa ac er mor agos i'w ddinistr y bu.


Rhoddwyd ef mewn cartref newydd, gyda phobl o fuchedd weddus, dwys eu teimlad, mwyn eu natur, a hoff iawn o ganu. Bu'n tician yno am lawn ugain mlynedd, gan ennill parch trwy reoleidd-dra di ball ei waith, cyn i'w gartref ddod yn gartref Methodistiaeth yn y fro honno. Yr oedd y cloc wedi pasio drws Pen y Geulan ar ei ffordd i Lyn Tegid yn amser y "Llif Mawr". Safodd y ty yr adeg honno, er fod y cenllif wedi ysgubo dros holl waelod y dyffryn o'i flaen. A byth ar ol adeg y rhyferthwy, newidiodd yr afon ei gwely, a chymerodd Iwybr newydd rhyw led cae oddiwrth Ben y Geulan, fel pe buasai arni gywilydd o'r difrod wnaethai yn nydd ei chynddaredd gwallgof. Felly hefyd y gwelais wr fuasai feddw'n gwneyd pan yn cyfarfod ei weinidog,— cerddai yr ochr arall i'r heol, yn ddistaw, a'i ben i lawr. Erbyn heddyw y mae hen wely'r afon wedi ei droi'n ffordd, rhed hithau draw yn ddistaw, fel pe mewn cywilydd byth am y dydd y bu hi a'r cloc yn rhuthro am y cyntaf tua'r llyn. Rhwng y ffordd â Phen y Geulan y mae aber dryloew, — "ffos y felin," — yn dwndwr yn hapus o flaen y ty, fel y bu'r afon gynt.


Yn y dyddiau hynny yr oedd ysbryd y Diwygiad Methodistaidd yn ymsymud dros Gymru; gwelid yn weddaidd ar y mynyddoedd draed rhai yn efengylu, yn cyhoeddi iachawdwraeth; a'r pryd hwnnw dechreuodd Gymru ymysgwyd o'r llwch, a gwisgo gwisgoedd ei gogoniant. Bu Rowland Llangeitho a Williams Pantycelyn farw cyn i bregethwyr y Diwygiad a'r hen gloc ddod i gwmni eu gilydd; ond rhwng