Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.


ADGOFION munudau segur iawn yw y llyfr hwn. Nid oes yr un rheswm, ag y gwn i am dano, am ei gyhoeddi. Ni rof y bai ar neb arall; nid oes neb wedi fy annog i wneyd hyn. Nid oes gennyf un lle i dybio fod y cyhoedd yn dyheu am dano; ac nid wyf yn tybio fod eisiau i mi roi awgrym caredig i'r neb sydd yn meddwl ei gael am anfon ei enw ar unwaith, rhag na fydd un copi yn aros. Gall pawb gymeryd ei amser, ni chynhyrfir y wlad i ymwylltio am y llyfr hwn.

Nid oes dim newydd ynddo. Beth bynnag ddywedir, y mae wedi ei ddweyd o'r blaen; beth bynnag bregethir neu a awgrymir, y mae wedi ei gyhoeddi o'r blaen,— ond a barnu oddiwrth ei effaith, ychydig oedd yn gwrando. Os cwyna y cyhoedd ei fod yn ddifywyd, gallaf ddweyd fel Oliver Goldsmith,— "Ti roddaist dderbyniad peth difywyd i'r llyfrau o'r blaen."

Nid oes dim am bobl bwysig ynddo. Gwyr rhai i mi fwynhau cymdeithas pobl enwog, nid oherwydd dim teilyngdod ar fy rhan fy hun; ond nid oes yma ddim am danynt hwy. Os disgwyli, ddarllennydd dieithr, gael gwybod beth a fwytaent ac â pha beth yr ymddilladent, beth feddylient o'u gilydd ac ohonynt eu hunain, mewn pa bethau yr oeddynt yn arwrol ac mewn