Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Howel Harris, ond nid oedd hynny'n rhwystr i'r rhwyddineb melus a gafodd. Y flwyddyn wedyn daeth offeiriad ieuanc o sir Aberteifi dan argyhoeddiad dwfn, i bregethu i eglwys y llan. Dywedais na erlidiwyd neb am grefydd gan bobl Llanuwchllyn; dylwn ddweyd i Ddaniel Rowland gael ei erlid yn eglwys y lle. Tra'r oedd y gŵr ieuanc yn darllen am felldith yr annuwiol yr oedd hen wraig yn canu'r gloch, rhag i neb ei glywed, a gofynnodd rhywun yn ddigllawn iddo, pan yn darllen, a oedd Stephen Glan Llyn yn felldigedig. Bu diwygwyr y De'n pregethu am hanner can mlynadd ar eu tro cyn i'r seiat Fethodistaidd gyntaf ymffurfio; cyn hynny yr oedd Howel Harris a DanieÌ Rowland a Williams Pant y Celyn yn eu bedd.


II. 1791—1804. Dyma'r cyfnod crwydrol, pan oedd y seiat ieuanc yn crwydro o fan i fan. Nis gwn a ydyw hynny'n rhyw argoel, — y mae bron bob man y bu erbyn heddyw'n garnedd o adfeilion neu'n llannerch werdd. Ar y cychwyn nid oedd ond diadell fechan o bump, — Richard Prichard o'r Graienyn draw, Edward Rowland o Fadog ar lan y llyn, Elizabeth Edward o Ryd Fudr ar ochr y ffordd Rufeinig ar y fron fry, Robert Tomos o Goedladur ddigysgod, ac Owen Edward o Ben y Geulan ar lawr y dyffryn. Ond buan y cynyddasant, gan ddewis tri blaenor, — Edward Rowland, Owen Edward, a Thomas Ffowc o Gaer Gai.


Nid rhyw eang iawn oedd eu gwybodaeth, na manwl. Adroddir am un hen wraig yn mynd i ben y Bryn Derw, yn y dyddiau hynny, ac yn codi ei dwylaw mewn syndod wrth weled Llanuwchllyn a'r mynyddoedd, ac yn dweyd, — " Arglwydd anwyl, mae dy fyd di'n fawr !" Gweddiai hen frawd syml am i'r holl fyd gael