Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei achub, "o Gaergybi i Gaer Dydd." A dywedir am hen bererin sydd newydd huno ei fod wedi gweddio dros bentref bychan bychan, — " O Arglwydd, achub heno filoedd yn y pentref hwn." Ond er mor afreolaidd oedd ehediadau eu dychymyg, dygwyd hwy i gymundeb â byd tragwyddol, enillasant feddylgarwch, a'r dedwyddwch aruchel nad ydyw i'w gael ond ym myd y meddwl. Yr oedd Rhagluniaeth wedi eu breintio a chwaeth wnai iddynt garu'r tlws a'r cain, er nad oedd wedi rhoddi llawer o fanteision addysg yn eu cyrraedd. Os amheua neb geinder eu chwaeth darllenned eu penillion telyn. Yr oedd ganddynt leisiau mwynion, a chanent addoliad byw. Nid oedd llawer o bryd- yddiaeth yn eu hemynnau, — rhyw gerdd ddigon gwladaidd, heb fawr ddychymyg, a ganent, —

"Daw dydd o brysur bwyso
Ar bawb sydd ar y llawr,
Rhaid rhoddi cyfrif manol,
Ger bron y frawdle fawr;
Bydd yno bawb yn sobor,
Ger bron y Barnwr gwiw,
Fe gaiff pob dyn ei bwyso,
Yng nghlorian gyfiawn Duw."

Yn yr emyn hwn y mae gwirionedd rhyddiaith, ac apeliai'n gryf at yr amaethwyr oedd yn pwyso eu hanifeiliaid yn bryderus yn y Bala. Byddai ambell emyn arall yn gofyn am dipyn ychwaneg o ddychymyg, —

Mewn breuddwyd gwelais ysgol gref,
Cyrhaeddai o'r ddaer i entrych nef;
Angylion arni hyd entrych nen,
Jehofah ei hunan ar ei phen."