Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond er gwaeled eu hemynnau cyntaf, yr oedd greddf brydyddol o'r iawn ryw yn y crefyddwyr hyn; a buan y deallasant fod bywyd a gwirionedd yn emynnau amaethwr Pant y Celyn yn sir Gaer Fyrddin, ac ym merch Dolwar Fach yn sir Drefaldwyn. Yn union wedi dechreu'r ganrif hon, yr oeddynt yn canu, —

"Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed."

Nid oeddynt heb eu hanawsderau ychwaith. Llawer o dywydd welodd Ifan Ffowc, hen gynghorwr ffyddlon yn eu mysg. Llawer ystryw fu gan y diafol i rwystro i Ifan Ffowc wneyd daioni. Cododd ddannodd enbyd arno unwaith ar ddydd gwaith, gyda golwg ar y Sul a'r bregeth ar ei gyfer. Aeth Ifan Ffowc i'r Bala ar nawn Sadwrn, wedi nos ingol, i dynnu'r dant. Cerddai adre'n llawen gyda glan Llyn Tegid, wedi cael gwared hollol o'i boen. Yr oedd heb gysgu er ys nosweithiau, yr oedd awel braf y nos yn dwyn cwsg melus i'w amrantau; aeth dros y clawdd, a gosododd ei hun dan dderwen ar lan y llyn i gysgu, am ennyd. Pan ddeffrodd Ifan Ffowc, gwelodd fod y diafol wedi ennill y dydd ar ol y cwbl, — yr oedd haul nos Sul yn suddo o'i olwg dros y mynydd yr ochr arall i'r llyn. Dioddefodd Ifan Ffowc dipyn o erIid oddiwrth ei wraig hefyd, yr hon a ofnai y collai ei waith pannu oherwydd ei grefydd.


Nid rhai wedi colli golwg ar eu gwaith yn y byd hwn oedd pobl y seiat, — nid oedd eu gonestach yn y plwy, na gweithwyr caletach. Yr oeddynt yn barod i ddioddef o achos cydwybod pan fyddai eisiau, ond ni ruthrent i wyneb treialon er hynny. Ambell adeg, danghosent