Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adrodd hanes y crefyddwyr hyd 1870. Yn y flwyddyn honno yr oedd pedwar o flaenoriaid a gweinidog. Dafydd Rhobert o'r Garth Isaf, Owen William o'r Rhyd Fudr, Edward Edwards o Ben y Geulan, a John Jones o Blas Deon oedd y blaenoriaid. Gŵr galluog a pharod i waith oedd Dafydd Rhobert, gyda threm ddireidus yn ei Iygaid. Athraw yr A B C oedd Owen William, bum yn eistedd ar ei lin i ddysgu'r llythyrennau 'oedd wedi ysgrifennu ar ewinedd fy mysedd. Byddai'n cymeryd tybaco nid ychydig, ac yr wyf yn clywed arogl tybaco ar yr A B C byth. Yr oedd ganddo feddwl mawr o'i swydd, ac ni fynnai son am ymostwng i'r rhai gwrthryfelgar. Pan fyddai y lleiII yn bygwth ymddiswyddo, atebai ef yn dawel, — "Wel, ie, ond pwy fedra nhw gael i wneyd y gwaith yn well? Mwya'n y byd dreia nhw dynnu ei got oddiam Owen, tynna yn y byd y lapiff Owen hi am dano." Bu'r hen Gristion gloew farw wedi ymgysuro wrth feddwl ei fod wedi cychwyn miloedd o blant i'w Beibl ac at Grist. Athraw a melinydd oedd Edward Edwards, — gŵr golygus, hawdd ganddo chwerthin a wylo, wedi cael mwy o fanteision addysg na'r cyffredin, ac un di-guro gyda phlant. John Jones oedd ysgrifennydd y llyfr hwn.

Amaethwr oedd Robert William, y gweinidog. Nid oedd yn cael cyflog, a gweithiodd yn galed am lawer iawn o flynyddoedd. Hen lanc tal, gyda thrwyn Rhufeinig a llygaid duon treiddgar, oedd. Yr oedd ei fywyd heb ystaen arno, ac yr oedd ei air yn gryfach na byddin. Safodd fel y dur yn erbyn pob pechod ac yn erbyn pob anghyfiawnder; ac os dywedai rhywun nad oedd yr "Hen Barch " yn berffaith, nis gallai fanylu a dweyd ym mha le yr oedd y coll.