Gwirwyd y dudalen hon
-
YR HEN GAPEL.
Wrth edrych ar y capel heibio'r olwyn ddŵr ni welwn ddim o'r mynyddoedd.
Cyn marw, yr oedd yr hen bregethwr ffyddlon wedi cael help bugail yn gwybod digon i addysgu bechgyn y dyddiau hyn, ac ni chlywais neb yn dweyd am dano ef ei hun ei fod wedi mynd yn hen ffasiwn. Pryderodd lawer am yr ieuainc, a cheisiodd sefyll rhyngddynt a'r gelyn ddyn. Er eu mwyn hwy, anodd oedd ymadael, ond gwyddai fod y breichiau tragwyddol odditanynt pan yn colli amddiffyniad egwan ei fraich ef, —
“ |
|
” |