Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Heb gyflog y gweithiodd. Ac un o anhawsderau blaenoriaid y ddiadell fechan oedd dysgu eu brodyr i gyfrannu. Cyn hir iawn daeth y rhan fwyaf i demilo y pleser sydd mewn rhoi'n wirfoddol, a daeth eu dyddordeb yn y capel yn ddau-ddyblyg. Er mai wrth eu diwrnod gwaith yr oedd llawer o honynt, yn ennill eithaf swllt yn y dydd i gadw teulu, yr oeddynt yn cyfrannu sofren yr un ar gyfartaledd at godi coleg y Bala.


Ymysg y pregethwyr ddoi i'w dysgu amlaf yr oedd Dr. Parry, un oedd yn meddu athrylith i ddysgu'n ddeniadol ac yn glir; Cadwaladr Owen a'i ddawn felus; John Davies Nerquis, yn dangos pethau rhyfedd o Ddiarhebion Solomon a Chân y Caniadau; William Prydderch a Ffowc Ifan, yr efengyl a'r ddeddf; a llawer mab athrylith wyllt,— Dafydd Dafis Cowarch, Dafydd Rolant, a Robert Tomos Llidiardau. Yn ei dro, doi hen of hefyd, un o'r fro hon, o'r enw Tomos Dafis, ond yr oedd wedi taflu i fyw i Felinbyrhedyn. Pur ddigrif oedd, ac yr oedd ei gydmariaethau cartrefol yn darawiadol iawn. Pan ddaeth un tro, yr oedd gŵr ieuanc o'r ardal yn dechreu pregethu. Gŵr ieuanc gordduwiol oedd hwnnw, un eiddil coesfain breichfain, wedi dysgu'r Beibl allan ac adrodd salmau ar hyd ei oes. Daeth yr hen of ato, cymerodd ef o'r neilldu, ac ebe ef, gyda phwyslais pwysig ar ei eiriau, —


" Fy machgen i, yr wyt ti ar gychwyn ar waith mawr, ac y mae gen i gyngor iti."


" Oes, Tomos Dafis," ebe'r bachgen, gan droi llygad glâs fel llygad sant arno, "byddaf yn ddiolchgar iawn am gyngor ar yr argyfwng pwysig hwn yn fy mywyd."