Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Oes, fy machgen anwyl i; yr ydwi'n teimlo drosot ti i waelod fy nghalon, mi fum i'n dechre pregethu fy hun."


Yr oedd y llygaid gleision yn agor yn lletach, a neshaodd yr hen bregethwr at yr ymgeisydd, a chydag agwedd o berffaith ymddiried, hanner sibrydodd wrth y bachgen duwiol hwnnw, gyda phwyslais bywyd, — "Fy machgen i, paid byth a phaffio."


Rhyfedd mor fawr ydyw edmygedd y gwan a'r di-ffurf tuag at brydferthwch a chryfder mewn un arall. Er mor annisgwyliadwy oedd cyngor yr hen bregethwr ac er mor chwithig, nid fel sen nac fel ffolineb y cymerodd y gŵr ieuanc eiddil duwiol ef. Breuddwydiodd am ennyd fod ganddo nerth corff, a gallesid ei weld, wrth fyned adref hyd ddôl unig, yn taflu dwrn gwyn bach ar led-tro i wyneb gelyn dychmygol. Nid oedd wedi meddwl am gyflawni gwrhydri fel hyn erioed tan glywodd gyngor yr hen bregethwr. Y mae'n anodd iawn hyd yn oed i'r seiat ddwyn neb oddiar yr hen deulu dynol.


Ymladdwr oedd y pregethwr cyn dod i'r seiat, a phaffio oedd ei demtasiwn ef. Pe buasai'r gŵr ieuanc wedi troi heibio'r odyn y noson honno, wedi'r seiat, gallasai weled yr hen of gyda chymdeithion bore oes yn mynd dros ei helyntion. Adroddai ei hanes yn mynd i bregethu ar fore Sul i Lanfachreth, a phwy ddaeth i'w gyfarfod ar y Garneddwen ond ei brif wrth- ymladdwr yn nyddiau'r cnawd. " Aeth yn fatel yn y fan," — ebe'r pregethwr gydag ochenaid, — ac ychwanegodd gydag acen debyg iawn i acen llawenydd, — " yr oedden ni'n dau'n waed yr ael cyn pen deng munud, a chyn pen hanner awr yr oedd o yn ffos y clawdd."