Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ddoth llawer i'r seiat yn Llanfachreth y Sul hwnnw, Twm?" gofynnai'r odynwr yn ddireidus.


Cyfaddefodd y gof ei fod wedi anghofio popeth ond ei fuddugoliaeth. Gwelais yr hen ymladdwr wedi hynny ar heol Machynlleth. Yr oedd dau gi'n ymladd, ac ar flaen y dorf, yn hysio ei oreu, yr oedd yr hen frawd, yn ei siwt bregethu, a'i wallt yn y gwynt. Yr oedd yr hen ddyn yn gryf ynddo hyd y diwedd.


Nid pregethwyr od oedd y rhai mwyaf derbyniol er hynny. Byddai'r capel yn orlawn pan ddoi John Jones Talysarn. Daeth John Jones unwaith ar Sul Enoc Ifan. Anfonwyd Enoc Ifan i'r pulpud i ddechreu'r odfa iddo. Wedi gweddio, cododd Enoc Ifan ei lygaid a dywedodd, — " Y mae yma fwy o honoch chwi nag y fydd yn fy ngwrando i. Rhag ofn na chaf fi l byth gyfleustra eto, mi bregetha i dipyn i chwi."Ac er mor anfoddog yr edrychai'r gynulleidfa, pregethodd Enoc Ifan cyhyd ag y gallai iddynt.


Dywedodd brenin unwaith, mewn dull rhy arw i mi fedru ail adrodd ei ddywediad, nas gall brenhiniaeth a phresbyteriaeth gyd-fyw. Yr oedd digon o deimlad gweriniaeth yn y seti ol, a dyma ddernyn o'r llyfr sy'n arwydd ystorm a chwyldroad, —


"Gwnaed sylw maith a difrifol ar y dull presennol o gadw cyfarfodydd eglwysig-. Ofnid fod y dull presennol o'u cadw yn achos i amryw absenoli eu hunaiu oddiwrthynt. Sylwyd fod gormod o ymholi ynghylch profiad, pryd y dylesid cyfrannu gwybodaeth. Sylwyd fod llawer o'r ieuenetid sydd wedi eu derbyn yn ddiffygiol iawn mewn gwybodaeth ysgrythyrol, a fod yma ddiffyg ymgais at eu goleuo.