Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Fod y swyddwyr eglwysig i raddau mawr yn esgeuluso gwneyd eu rhan yn nygiad y Society ymlaen, a bod hynny yn rhoi effaith ac argraff ddrwg ar yr holl frawdoliaeth. Sylwyd eu bod yn effro a gofalus am bethau allanol yr eglwys, ond yn dra diffygiol yn y rhannau mwy ysbrydol. Gwnaeth rhai o'r swyddwyr ychydig o amddiffyniad iddynt eu hunain; ond y penderfyniad y daethpwyd iddo oedd hyn, — Fod y sylw i gael ei ddwyn ger bron committee 'r eglwys y tro cyntaf y cyfarfydda, a Robert Williams ein gweinidog yn bresennol, a dau gynhygiad i gael eu rhoddi ger bron. 1. Fod y swyddogíon i ymgymeryd ag ychwaneg o'r gwaith nag y maent yn bresennol, sef ymddiddan a'r rhai o'r dosbarth ieuengaf yn y societies, traethu ambell dro ar ryw fater penodol, ynghyda chadw rhyw foddion gyda'r dosbarth ieuengaf.


"Sylwyd fod achos crefydd yn myned yn is yn ein plith."


Ond ni welais yr anghydfocl lleiaf yn yr eglwys fechan erioed.


Yr oedd gofal y brodyr am eu gilydd yn amlwg, cesglid i'r tlodion yn ol y dull apostolaidd. A gofelid am roddi papur i rai fyddai'n myned i ffwrdd, — i Loegr, i'r Amerig, ac i bob rhan o'r byd, — gan eu cyflwyno i'w cyd-grefyddwyr yn yr ardal honno. Aeth llawer i ffwrdd i wasanaethu neu i'r ysgol " ar brawf," rhai i'r Deheudir, rhai i'r Amerig, rhai i'r bedd.


Ond trwy'r llyfr, rhestr y rhai fu farw ydyw y peth mwyaf tarawiadol. Ar ol pob enw, rhoddir crynhodeb byr o'i fywyd, — a hynny ar adeg pan na chofid ei feiau mwyach. Agorwyd y fynwent yn 1859, — blwyddyn y Diwygiad, pan ddaeth "David Morgan a'i gyfaill Evan Phillips" drwy'r wlad. Y gyntaf gladdwyd yn y fynwent newydd oedd gwraig Ifan Dafydd o'r Plas, a Robert William oedd yn gweinyddu