Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Niclas Wniffres," ebe Dr. Edwards, ar ddiwedd cyfarfod ysgolion hir, "ewch i weddi am funud." Disgynnodd Niclas ar ei liniau ar darawiad amrant, — " Munud sydd gennom ni, Arglwydd mawr, mi elli di ein hachub ni oll mewn munud. Gwna hynny er mwyn Iesu Grist, Amen."


Yr oedd Niclas, er diniweitied oedd, yn bur ochelgar. Rhoddai ei gadach poced ar lawr cyn mynd ar ei liniau, rhag ofn nad oedd glanhawr y capel yn Gristion. Ond, er ei ochelgarwch, doi i brofedigaeth weithiau. Pan yn arwain cyfarfod gweddi ym Mhig y Swch unwaith trodd gynffon ei got bigfain at y tân mawn croesawus, a chymerodd ei got dân. Ond daeth Niclas o honi"n ddihangol. Oni bai am barodrwydd meddwl buasai wedi dwyn ei hun i warth o flaen ei frodyr a'i chwiorydd unwaith. Gododd yn sydyn oddiar ei liniau mewn cyfarfod gweddi cenhadol a hitiodd ei ben yn erbyn gwaelod y canhwyllbren crog. "Dyw!" ebe'r hen ddyn o fewn Niclas, dros y lle. Ond meddiannodd ei hun, ac ychwanegodd, — "Duw deyrnaso dros yr holl ddaear."


Maddeuer i mi am adael llyfr y seiat am funud, — y mae hanes byr am lawer bywyd prydferth ynddo. Ond rhaid i mi ymatal. Tua diwedd y Ilyfr y mae cofnodiad mewn llaw arall am farw'r croniclydd. "Bu yn ddiacon yn yr eglwys am ddeugain mlynedd, a gwerthfawrogid ei gyngor mewn materion bydol a chrefyddol. Bu yn ddefnyddiol iawn am dymor hir, ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth i burdeb ei gymeriad. Cafodd yr eglwys golled ddirfawr yn ei farwolaeth. Ni chafodd ond cystudd byr, a bu farw'n hynod dawel."