Wrth adael llyfr y seiat hwn, nis gallaf lai na theimlo fod llawer bywyd arwraidd ymysg trigolion dinod ardaloedd mynyddig. Y mae yma ddegau o ddynion wedi gweithio'n galed ar hyd eu bywyd, — rhai o honynt wedi dioddef, oll wedi aberthu oherwydd dyledswydd neu gariad, — ac yr oeddynt yn fwy na choncwerwyr pan roddasant eu tariannau i lawr. Dyma fugail wedi torri ei galon, ac ni fynnai ei gi adael ei fedd. Dyma eneth ieuanc wedi disgyn i'r bedd pan oedd llygaid gwlad ar ei phrydferthwch. Dyma hen wr y bu ei weddiau fel gwlaw graslon ar galonnau diffrwyth lawer tro. Dyma un fu'n ddedwydd, ac a gollodd fwynder ei fywyd i gyd. Dyma Gromwell y seiat, gŵr yn cynllunio'n glir ac yn gweithio'n galed, gŵr yr oedd ei eiriau'n ddeffroad bywyd i bob bachgen ieuanc dan ei ofal. Ac y mae ei set yntau'n wag. Dyma un y medrai plant ddeall ei weddiau, dyma un diflino gyda'r Ysgol Sul. Y mae llu o honynt, pob un erbyn heddyw wedi rhoddi ei darian o'r neilldu. Y mae rhyw brudd-der melus mewn edrych ar hen dariannau, gyda tholciau brwydr ynddynt, yn rhes mewn eglwys neu deml. Yn llyfr y seiat y mae tariannau fil rhai fu'n ymladd yn erbyn gelynion Cymru, — yn erbyn anfoesoldeb ac anghrefydd, — ac wrth feddwl am eu gwaith hawdd ydyw dweyd eu bod oll yn estylch y cedyrn.
Pan yn mynd drwy'r hen ardal y tro diweddaf, gwelais gapel newydd mewn lle mwy amlwg. Ac y mae y seiat, erbyn hyn, wedi ei thrawsblannu yno.