FY NHAD.
DDOE, wrth grwydro hyd Iwybrau fy mebyd, dois bron heb yn wybod i mi at hen fwthyn fy nhad. Na, nid yw yr hen fwthyn yno, — er fod y pistyll mor loew ag erioed, a'r masarn a'r derw cawraidd eto'n cysgodi'r lle. Y mae'r mynydd mawr, welwn o ffenestr fy ystafell wely, yr un hefyd, gyda'i fil o ddefaid mân; a thybiwn glywed, yn nwndwr yr afon islaw, leisiau mwynion sydd wedi tewi er ys llawer blwyddyn faith.
Daeth noson marw fy nhad i'm cof fel pe buasai neithiwr. Torrodd y noson honno fy nghysylltiad i a Llan y Mynydd; ac nis gwn beth sydd wedi fy nhynnu i'r hen fro yn ol. Cofiwn am y noson ystormus yn y gwanwyn, pan ocheneidiai'r gwynt wrth guro ei adenydd nerthol yn erbyn bronnau'r mynyddoedd, a phan oedd pob afon a nant yn llawn o ddwfr ffroch- wyllt at ei hymylon. Y noson honno, mewn tangnefedd na fedd y nefoedd ei dynerach, y ffarweliais â fy nhad.