Nid oedd fy nhad yn wr blaenllaw gyda dim. Nid un o feibion yr argyhoeddiadau cryfion oedd ef, ac ni yswyd ei fywyd gan uchelgais y byd hwn. Pe dywedwn ei fod yn hoffach o'r seiat nag o gyfarfod cyfeillion difyr, pe dywedwn ei fod yn hoffach o weddio ar Dduw nag o ganu mawl pob peth tlws a wnaeth, — pe dywedwn y pethau hyn, dywedwn fwy na'r gwir. Ond yr oedd yn hapus iawn, yn ei fyw ac yn ei farw. Ymhyfrydai yn nhlysni creadigaeth Duw. Rhodiai'r caeau gyda'r gwanwyn, a dygai flodeuyn cyntaf ei ryw i ni, — llygad y dydd, clust yr arth, dôr y fagl, cynffon y gath, blodau'r taranau, y goesgoch, hosan Siwsan, clychau'r gog, anemoni'r coed, blodyn cof, — a phob blodyn dyfai hyd lechweddau a gweirgloddiau ein cartref mynyddig. Gwelai ffurfiau prydferth a lliwiau gogoneddus yn y cymylau, a llawer noson haf ein plentyndod dreuliasom gydag ef i weled y rhyfeddodau hynny. Byddai wrth ei fodd o flaen tân coed ar hirnos gaeaf, gwelai'r gwreichion yn ymffurfio'n bob llun, a danghosai ryfeddodau i ni yn y rheiny. A holl lu y nefoedd ar noson rewllyd, — hyfrydwch Pleiades a rhwymau Orion, Mazzaroth ac Arcturus, a'i feibion, — ymgollai mewn mwynhad pan gymerai fi ar ei fraich, yn blentyn pedair oed, i ddangos i mi amrywiaeth diderfyn yr ehangder mawr.
Treuliai lawer o'r haf i'm dysgu, yn ei ffordd
ei hun. Cymerai fi i'r mynydd ar brydnawnau
heulog cyn i mi fedru dechreu cerdded, a dysgai
fi i wneyd cyfeillion o'r llygad y dydd ac o'r
fantell Fair wenai o'm cwmpas. Pan ddechreuais gerdded, ai a mi i ben y mynyddoedd, a
danghosai gyrrau ardaloedd ereill i mi, gan
ddweyd beth oedd yn tyfu yno a phwy oedd yn