Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byw yno, a pha rai enwog, yn enwedig pregethwyr, a fagesid yno. Cadwodd ireidd-dra ei blentyndod drwy ei fywyd, yr oedd pob peth yn llawn rhyfeddod iddo.


Yr oedd yn hoff o bob peth byw. Yr oedd ganddo gân, ac enwau yr holl adar wedi eu gwau ynddi. Gwyliai'r defaid a'r cwn a'r gwartheg fel pe buasent yn meddu enaid a meddwl, a gwelai rywbeth tarawiadol yn eu bywyd o hyd.


Ni chlywais ef erioed yn ameu amcan neb, nac yn dweyd gair angharedig am neb yn y byd.


Digiai wrth un am enllibio neu ddweyd geiriau di-chwaeth, ond ni ddywedodd air erioed i friwio teimlad neb. Ni chlywais air drwg na dichwaeth o'i enau. Gallwn ddweyd am dano ar lan ei fedd, fel y dywedai Ap Vychan am ei fam, — "Dyma un na chlywodd ei blant erioed air drwg oddiar ei wefusau."


Hwyrach y meddyli yn dy ddiniweidrwydd, ddarllennydd mwyn, mai rhyw angylion bach o blant oedd fy mrodyr a minnau, ac mai hawdd i fy nhad oedd cadw ei dymer wrth ein magu. Ond, os tybi hyn, syrthi i gamgymeriad. Yr wyf yn cofio fod fy nhad unwaith wedi ei wahodd i briodas, ac wedi prynnu het befar uchel loew ar gyfer y dydd. Y noson cyn y briodas medrodd fy mrawd a minnau gael gafael yn yr het newydd, ac aethom a hi allan i'r caeau i wneyd arbrawfion arni. Eisteddasom gefn-gefn ar ei phen, a'n traed ar ei chantal. Codasom ein traed ein dau ar unwaith, a gollyngodd yr het danom. Yr oedd fel conrertina. A chyn ei dychwelyd i'w chas, yr oedd dau borchell bach, — un du ac un gwyn, — wedi bod yn trwsio tipyn ar ei ohantal yn ol eu mympwy eu hunain. Ond, wedi eiliad o gythrwfl meddwl, cafodd fy