ni "yn y wlad" chwedl pobl y Bala. Yr adeilad diweddaf inni adael ar ein holau ydyw y Victoria Hall, a godwyd er cof am jubili'r frenhines, ac ni welwyd hagrach adeilad mewn gwlad mor dlos. Yna y mae ffordd union o'n blaenau, a choed hyd ei hymylon o hyd, yn ein harwain at y llyn. Gadawsom y meddyg diddan, wedi cael gwahoddiad i fwynhau cwpanaid o de. Fy nhemtasiwn i yw yfed gormod o de, ond bydd fy nghydwybod yn dawel iawn pan fydd meddyg wedi'm gwadd i brofi ffrwyth fy hoffaf ddail.
Gofynni imi, mae'n ddiameu, beth a wn o hanes y Bala. Ni wiw i mi ddweyd fawr o hanes ar ddydd gwyl. Ond gallaf ddweyd fod castell yn y dref unwaith. Y mae hanes ym Mrut y Tywysogion am gastell y Bala. Yr oedd Llywelyn ab lorwerth, un o'r tywysogion mwyaf welodd Cymru, yn graddol ddarostwng Cymru iddo. Yr oedd newydd ymheddychu â Gwenwynwyn tywysog Powys, yr hwn er ei fod yn garennydd i Lywelyn o waed, oedd elyn iddo oherwydd gweithredoedd. Yr oedd Elisi ab Madog wedi gwrthod dilyn Llywelyn yn erbyn Powys, gan ddewis yn hytrach ymuno â Gwenwynwyn. Pan wnawd heddwch, daeth dydd ei gyfrif. "Ac yn y diwedd y rhodded iddo, yn gardod ei ymborth, gastell a saith tref bychein gydag ef. Ac felly, gwedi goresgyn castell y Bala, yr ymchwelodd Llywelyn drachefn yn hyfryd."
Wedi gorchfygu Cymru yn 1282, yr oedd y Bala yn un o'r trefydd y cadarnhawyd ei breintiau gan frenhinoedd Lloegr, — yr oedd ganddi hawl, yn ol arfer y trefydd, i groesawu masnachwyr