Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w ffeiriau, ac i gadw Iddewon draw o'i thai to brwyn. Yr adegau hynny yr oedd Syr Walter Manny'n hela'r ceirw hyd ael y Wenallt draw ac hyd ffriddoedd Cwmffynnon. Bu i'r dref faer hyd y ganrif ddiweddaf, pan gawn hanes am ddau'n ymryson am yr anrhydedd, — "dau faer drwg yn difa'r dre."

Ond ynglyn a hanes crefydd Cymru, nid ynglyn a hanes ei rhyfeloedd a'i masnach, y mae'r Bala'n enwocaf. Bu ei sasiynau yn foddion deffroad crefyddol trwy Ogledd Cymru; a bu yr Ysgol Sul berffeithiwyd ynddi yn foddion deffroad meddyliol ac yn sylfaen yr hyn a wnawd dros addysg byth er hynny.

Ond dyma ni wrth gwrr y llyn, ac un o olygfeydd prydferthaf Cymru o'n blaenau. Ym- estyn y llyn, a'i ddyfroedd gleision tawel yn adlewyrchu'r bryniau a'r penrhynnoedd coediog, am aml filldir at odrau'r mynyddoedd draw. Dacw'r Aran fawreddog, — pe buaswn bagan, hi fuaswn yn addoli, — a dacw Gader Idris yn edrych dros ei hysgwydd.

"Y mae dinas dan y llyn, onid oes ? Clywais son am gloch y Bala." Oes y mae dinas, ebe traddodiad, dan y llyn, a chlywir swn cloch y Bala ar ambell hirnawn haf yn dod i fyny'r trwy'r dyfroedd tawel. Mi a glywais y clychau fy hun. Dywedodd rhywun wrthyf mai bendith fyddai i'r hwn a'u clywai. Ac ar ryw ddiwrnod rhew yng nghanol y gaeaf, ar ddydd pen fy mlwydd, clywn swn mil o glyohau aur ac arian. Yr oeddwn yn dod ar hyd y ffordd sydd o'n blaenau'n awr, a thybiais mai dychymyg oedd. Sefais a gwrandewais. Yr oedd pob peth mor ddistaw fel y gallwn