Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

harddach, ond hefyd â iaith fwy perffaith ac â merched mwy hardd." Er pryder yr arholiad, yr oeddwn yn barod wedi syrthio mewn cariad ag un o ferched llygatddu'r De, ac ni fedrwn ond ymboeni'n ddistaw wrth i'm cydymaith ymosod ar y Gogledd. Ond yr oedd yn Fethodist, a'i wyneb ar y wir weinidogaeth, ac yr oedd yn haws maddeu iddo.

Ond bu'n galetach arnaf na hyn. Rhaid i mi ddweyd wrthych imi syrthio, nid o'm bodd, ymysg Sosiniaid.[1] Yr oeddwn yn byw yn y coleg, ac yr oedd gennyf ystafell braf, yn edrych ar y castell ac ar y brif fynedfa i'r Coleg. Pan dalodd fy nghyfaill o'r De ei ymweliad cyntaf â mi, dechreuais ddangos iddo mor hyfryd oedd fy lle. Torrodd ar f'ysgwrs yn sydyn fel hyn, — " Gyfaill, 'rych chwi newydd ddod o'r Gogledd, ac yr ydych yn ffwl.'R ych chwi'n meddwl eich bod mewn lle hyfryd 'nawr; ond fase waeth i chwi fod wedi nythu ar ben llosgfynydd. Oni wyddoch chwi fod Sosin yn yr ystafell oddi tanoch? Daliwch chwi ar hyn, fydd eich mam ddim yn eich nabod pan ewch adre. Gan edrych arnaf yn dosturiol, fel pe buaswn yn hanner coll yn barod, gadawodd fi; ac yr oeddwn yn anedwydd iawn. Ond cyn hir, tra'n synfyfyrio ar gyflwr dybryd yr anuniongred, clywn seiniau nefolaidd yn esgyn o'r ystafell odditanaf. Yr oedd y Sosin yn canu

" Toriad y Dydd " ar ei grwth. Dyma fy hoff alaw; a chyn hir gwelai'r Undodwr wyneb gwelw ymofyngar yn ei ddrws hanner agored. Yr oedd yn wr mwyn ryfeddol, a chanodd lawer alaw i mi. Dywedai ei fod yn dod o ardd Cymru; a phan fynwn i mai Dyffryn Clwyd oedd honno, atebodd gyda gwên benderfynol,—

  1. Undodiaid