Tudalen:Coelion Cymru.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COELION CYMRU

I.

LLÊN GWERIN

Beth amser yn ôl nid oedd yng Nghymru namyn dau ddosbarth o bobl, sef yr uchelwyr a'r gwerinwyr, y dysgedig a'r anwybodus, a rhoddai'r ddau fel ei gilydd bwys mawr ar ofergoelion a phethau eraill llên gwerin. Rhoddant bwys arnynt eto yn awr, er nad am yr un rhesymau. Ond daeth i fod yn gymharol ddiweddar ddosbarth newydd, un wedi esgyn ychydig o anwybodaeth ond o hyd ymhell o gyrraedd dysg a diwylliant. Y dosbarth canol yw hwn, â thipyn o grefydd yn ei deimlad, a mwy o gaddug yn ei ddeall, un diddrwg didda, creadur cymysgryw, heb fod yn ddiwybod na goleuedig. I'r dosbarth hwn, pair ysgrifennu a sôn am bethau simsan fel ofergoelion gryn wayw.

Credir weithiau y goel ofer mai diffyg a berthyn i genedl yn ei mabandod ydyw ofergoeledd. Maentumir y cred cenedl yn ofer, megis y cred plentyn, hyd oni thyf i oleuni gwybodaeth gywir. Diflanna ofergoeledd yn ôl mesur cynnydd gwybodaeth. Eithr nid yw hyn onid rhan fechan o'r gwir. Ceir amryw bethau ym mywyd cenedl na chyffwrdd goleuni cynyddol y byd â hwy o gwbl. Praw hanes na lwyddodd na dysg na medr oesoedd