IX
RHEIBIO A CHONSURIO
Dywaid Marie Trevelyan yn ei llyfr a gyhoeddwyd tros ddeugain mlynedd yn ôl, iddi fethu â tharo ar reibes neu reibiwr ym Mro Morgannwg, ac na chredai fod gan neb yno ffydd mewn rheibio.[1] Nid wyf yn ddigon cyfarwydd â'r Fro i wybod ei holl ddoniau, ond petai Marie Trevelyan yn fyw yn awr, gallwn ei thywys yn y gymdogaeth hon at fwy nag un rheibes sy'n fedrus ar y grefft.
Nid yn aml y ceir dyn a fedr reibio. Cyfyngwyd y ddawn bron yn gwbl i ferched. Ni chlywais am fwy na dau reibiwr, eithr clywais am ddegau o reibesau, ac adnabûm dair. Ofnai rhai pobl y tair hynny fel yr ofnir ellyll. Credir bod gallu rheibes i ddrygu dyn ac anifail bron a bod yn ddifesur. Teifl ei hud a'i melltith ar bawb a phopeth a gwae'r sawl a'i digio. Gwelir hyn yn glir mewn hanesyn a gofnodir gan y Parchedig Elias Owen.[2] Yr oedd Beti'r Bont, Ystrad Meurig, yn rheibes nerthol ac adnabyddus, a thelid yn ddrud am bob cellwair â hi. Un pen bore cyfarfu gwas Dôl