Tudalen:Coelion Cymru.pdf/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwbl ar fawn. Enhuddid y tân â lludw bob nos, a chedwid ef heb ddiffodd am flynyddoedd, ac weithiau am oes teulu.

Parhaodd yr hen arfer ar fynyddoedd Ceredigion hyd oni pheidiodd yr amaethwyr ar y gwastadeddau â chyflogi bugeiliaid i ofalu am eu defaid, ac i'r tirfeddianwyr yrru'r bugeiliaid a'r tyddynwyr i'r mân bentrefi. Clywais ddywedyd bod yr arfer yn fyw eto yn y parthau mynyddig eang sydd rhwng Llanbrynmair ym Maldwyn a Chwm Elan ym Maesyfed.