Fe dorrwyd i'r tŵr,
A daliwyd y gŵr;
Fe'i rhoddwyd dan len,
Ar elor fraith wen.
Rubanau o bob lliw
Sydd o gwmpas y dryw;
Rubanau'n dri thro
Sydd arno'n lle to.
Mae'r drywod yn sgant,
Hedasant i bant;
Ond deuant yn ôl
Drwy lwybrau'r hen ddôl.
O meistres fach fwyn,
Gwrandewch ar ein cwyn;
Plant ieuainc ŷm ni,
Gollyngwch ni i'r tŷ,
Agorwch yn gloi,
'Nte dyma ni'n ffoi.[1]
HEN ARFER NORMANAIDD. Mewn lluestai a
thyddynnau diarffordd ar y mynyddoedd eang,
heb ynddynt na glo, na dim praffach yn tyfu
arnynt na llwyni eithin, unig danwydd y trigolion
oedd mawn. Tua diwedd Mai a dechrau Mehefin
ymunai'r bugeiliaid a'r tyddynwyr i gynorthwyo'i
gilydd i ' dorri ' mawn a'u cynhaeafa yn ôl yr hen
drefn Normanaidd. Yr oedd y cartrefi filltiroedd
o'r priffyrdd, ac ymhell o gyfleusterau tanwydd
cyffredin y trefydd a'r pentrefi, a dibynnid yn
- ↑ Cefais y gân hon gan Mr. H. W. Evans, Y.H., F.R.A.S., Solfach, Penfro.