Tudalen:Coelion Cymru.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddi ganol nos o'r gweithdy, ychydig ddyddiau cyn marwolaeth un o'r pentrefwyr, sŵn gweithio'r arch.

Sŵn ydoedd y Cyheuraeth yntau, eithr sŵn yn yr awyr liw nos. Disgrifir ef fel ysgrechian gwyllt, ac weithiau fel griddfan un ar ddarfod amdano. Ni welid Cyheuraeth un amser; peth i'w glywed yn unig ydoedd.[1] Rhydd y Parchedig Edmund Jones enghreifftiau yn ei lyfr hynod o ymddangosiad ysbrydion, canhwyllau cyrff a'r cyheuraeth, neu un ohonynt, ym mhob sir yng Nghymru, a dysg fod i'r Gannwyll a'r Cyheuraeth wasanaeth gwerthfawr a phwysig. Y mae, meddai ef, y naill yn dystiolaeth i'r llygad a'r llall i'r glust o fodolaeth ysbrydion ac anfarwoldeb yr enaid.

CŴN WYBR, NEU CŴN ANNWN. Ymddengys bod unwaith gred yr ymlidid yr enaid, ar ei ymadawiad o'r corff, yn yr awyr gan gŵn marwolaeth. Rhai bychain llwytgoch oeddynt, ac wedi eu rhwymo â chadwyn, a'u harwain gan ryw fod corniog. Y traddodiad ydoedd yr anfonid hwy o Annwn i geisio cyrff, ac y dilynent farwolaeth yn ôl eu swydd. Gwelai cŵn y ddaear hwy a dychrynu. Hyn oedd y rheswm am yr udo a glywai dynion yn y nos. Gwyddai oes y Parch. Edmund Jones, y Trans, yn dda am y Cŵn Wybr.[2]

  1. Yr Hynafion Cymreig Peter Roberts (Cyf. H. Hughes, 1823), td. 221.
  2. Welsh Folklore and Folk Custom, Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 203,