Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aml wrth ei sodlau, ac yn ei gadw ar lawn waith, i roddi gwaith newydd iddynt hwy.

Gwedi bod wrthi felly yn galed am chwe' diwrnod, nid oedd gorphwys iddo ef ar y sabbath; llefarai y rhan fynychaf dair gwaith ar y sabbath; a theithiau yn gyffredin ddeg, ugain, ac weithiau ddeugain milldir, at yr oedfâon hyn, rhwng myned a dychwelyd. Mewn llythyr at ei frawd, dyddiedig Mawrth, 1789, mae yn dywedyd fel hyn:—"Yr wyf fi weithian wedi cynefino a gweithio, debygwn, fel nad oes arnaf eisiau na gorphwys na chysgu, gan yr hyfrydwch fyddaf yn gael yn y gwaith, a'r cymorth mae'r Arglwydd yn ei roddi i mi ynddo: ond, y mae fy rheswm yn dywedyd wrthyf: y caf fi deimlo oddiwrth hyn yn ol llaw.

Yr ydym newydd gael galwad o'ch Sir chwi, (Cernyw), oddiwrth ugain o gynulleidfaoedd am bregethwyr; ac yr ydwyf finnau wedi cael gorchymyn i barotoi cynnifer a allaf yn ddioed. Onid yw hyn, fy anwyl frawd, yn profi eich segurdod a'ch esgeulusdra chwi yr Offeiriaid, yn y rhan yna o'r wlad?—Ond nac adroddwch hyn yn Edinburgh, na fynegwch hyn yn heolydd Glasgow, rhag llawenychu merched y Kirk,[1] rhag gorfoleddu o ferched yr anghydffurfwyr!"

  1. Kirk, yr un peth a'r gair Church, yn Gymraeg Eglwys, Kirk y gelwir Eglwys Sefydledig yr Alban, neu Scotland.