Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pum' mlynedd a haner y bu Mr. Williams yn Nhrefeca, a chyfrif yr amser y bu yno yn absenoldeb yr athraw: oblegid yn Ebrill, 1791, rhoddodd ei swydd i fynu, er pob ymdrechiadau o eiddo Ymddiriedolwyr (Trustees) yr Athrofa, a'r Arglwyddes hefyd, i'w gadw yno. Dau reswm neillduol oedd yn roddi ym ei waith yn ymadael â Threfeca; yn gyntaf, o herwydd marwolaeth ei dad, yr oedd yn barnu mai ei ddyledswydd oedd myned i Bant-y-celyn, i fod yn gysur i'w fam yn ei gweddwdod a’i henaint. Yn ail, fel y gallai gael mwy o amser a chyfleusdra at ei hoff waith, sef pregethu yr efengyl.

Er mai pum' mlynedd a haner y bu ef yn athraw yn Nhrefeca; eto, yr oedd yn amser maith pan ystyriom fod holl bwys y gwaith arno ef ei hun: nid oedd ganddo neb i'w gynorthwyo; efe ei hun oedd yn dysgu'r ieithoedd, yn gwrando yr holl draethodau ar ddywinyddiaeth, ac yn manwl farnu arnynt. Ymddengys oddiwrth amrai o'i lythyrau, yn enwedig at ei frawd, fod ei lafur yn fawr iawn yr amser hwnw. Ni byddai yn cysgu, yn aml, dros ddwy, o'r pedair awr ar hugain; a'r rhan fynychaf, byddai yn codi am bedwar o'r gloch yn y boreu. Yr oedd ganddo o leiaf ddeuddeg o Efrydwyr (Students) dan ei ofal, ac weithiau bedwar ar ddeg; a rhai o'r hai hyny yn hynod o dreiddgar, fel y byddai yn cael gwaith cadw y blaen arnynt: yn enwedig dau o honynt, Woodward a Roby; byddent hwy yn