Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beidio gadael yr athrofa, a chanlyn Mr. Williams i Lanfair-yn-muallt.

Bu wedi hyn ddwy flynedd yn Llanfair, yn llafurus a defnyddiol iawn, oddi fewn ac oddi allan i furiau yr Eglwys Sefydledig. Pan diswyddwyd Mr. Phillips o fod yn athraw yr ysgol yn Nhrefeca, cafodd Mr. Williams fel oedd yn naturiol disgwyl, ei ddewis yn ei le, yn Ionawr, 1786. Yr achos o ddiswyddo Mr. Phillips, medd y Parch. William Kemp, (Athraw Duwinyddol yr Athrofa yn Cheshunt,) ydoedd yn nghylch Bradford, y Gwrthddeddfwr, (Antinomian,) Mr. Phillips yn lle ymddwyn tu ag ato yn ol rheolau yr Athrofa, a bennododd ymddadleu âg ef yn yr iaith Ladin, ar yr awr giniaw. Yn mhoethder y ddadl, pan oedd Bradford a'i dalcen fel y pres, yn haeru, ac yn amddiffyn ei athrawiaeth benrydd, methodd Mr. Phillips a meddianu ei hun, cododd ei waed yn ei wyneb, torodd allan o'i ffroenau, a llifodd yn ffrwd ar hyd liain y bwrdd. Daeth y peth annymunol hyni glustiau yr Arglwyddes, gorchymynodd i'r holl Efrydwyr gyd gyfarfod, a thrin y mater yn ol cyfraith yr Athrofa, a'r penderfyniad a fu, diswyddo Mr. Phillips. Y Parch. S. Lloyd, (o Abertawy wedi hyny,) oedd yr Efrydydd henaf y pryd hwnw, ac yn y gadair ar yr achlysur hwnw. Offeiriad oedd Mr. Phillips, ac yn ŵr tra dysgedig: bu yn byw wedi hyny yn Birmingham.