Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwedi y tro uchod, darllenai y gwasanaeth a phregethai dair gwaith ar y Sabbath, o fewn yr Eglwys Sefydledig; ac yn yr wythnos byddai gydâ ei frodyr y Methodistiaid yn Nghapel Alpha,[1] y rhai yr oedd ganddo erioed barch mawr iddynt, ond o hyn allan, ei frodyr anwylaf yn yr Arglwydd oeddynt. Aeth son am ei droedigaeth yn y fan drwy holl Sir Frycheiniog; a chlywodd yr Arglwyddes Huntingdon am y cyfnewidiad mawra gymerodd le arno; ac o herwydd y parch mawr oedd ganddi i'w dad, a gwybod ei fod yntau yn ysgolhaig rhagorol; hi a ysgrifenodd ato yn ei dull syml a difrifol a chyffredin hi, gan daer ddymuno arno gymeryd gofal yr Athrofa yn Nhrefeca am ryw yspaid o amser; o herwydd fod y Prif-athraw yno dan angenrheidrwydd o fyned oddi cartref am rai misoedd. Ufuddhâodd Mr. Williams i fyned; ac yn Nhrefeca y bu o ddechreu Awst hyd ddiwedd Rhagfyr, 1784. Yn ystod yr amser hwn dangosodd y fath ddiwydrwydd, a'r fath gymwysderau fel athraw, fel yr hoffodd y bendefiges enwog a duwiol hono ef yn fawr, ac a'i gwobrwyodd ef yn hardd am ei wasanaeth. Yr oedd yr holl Efrydwyr (students) hefyd yn ei garu yn anghyffredin; a chafwyd cryn waith darbwyllo rhai o honynt, i

  1. Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfair-yn-muallt, yw y cyntaf erioed a adeiladodd y corph hwnw yn Nghymru; am hyny galwyd ef Alpha, yn ol enw y llythyren gyntaf yn yr egwyddor Groeg.